CYPE(5)-26-19 – Papur 1

 

 

Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar – Tystiolaeth i'r Pwyllgor

Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

 

Cefndir

 

Ein gweledigaeth i Gymru, fel y nodir yn Ffyniant i Bawb, yw sicrhau gwlad lle mae pob plentyn yn cael y dechrau gorau mewn bywyd.  Mae ein profiadau yn ystod plentyndod yn chwarae rhan bwysig wrth lywio ein dyfodol, ac maent yn hanfodol o ran y tebygolrwydd o fyw bywyd iach, ffyniannus a bodlon. Dyma pam y mae'r blynyddoedd cynnar yn un o'n meysydd â blaenoriaeth.

 

Y tu hwnt i'r cyfraniad uniongyrchol y mae'r sector gofal plant a'r blynyddoedd cynnar yn ei wneud at ddatblygiad ein plant, mae hefyd yn bwysig cydnabod y rôl y mae'r sector yn ei chwarae yn ein heconomi ehangach.  Mae'n gyflogwr sylweddol, gyda thros 17,000 o gyflogeion ledled Cymru.  Mae'r gofal a ddarperir yn galluogi nifer mawr o rieni i weithio, ac, o ganlyniad, mae'r rhieni hyn gyda'i gilydd yn cynhyrchu tua £1.2 biliwn o incwm[1] bob blwyddyn, gan gefnogi twf economaidd a lleihau tlodi ledled Cymru.

 

Mae sicrhau cydbwysedd rhwng darparu addysg a gofal plentyndod cynnar o ansawdd uchel sy'n cefnogi datblygiad plant, ac eto sy'n ddigon hyblyg a hygyrch i alluogi rhieni i weithio, yn her allweddol ac yn un y mae'n rhaid i ni lwyddo i'w hateb er mwyn gwireddu ein gweledigaeth ar gyfer y blynyddoedd cynnar yng Nghymru.

 

Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar

 

Mae cyfoeth o waith ymchwil a thystiolaeth yn ymwneud â manteision system Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar (ECEC) integredig. Mae'r dystiolaeth hon yn dangos nad yw'n ddefnyddiol cymharu addysg gynnar a gofal plant, ac mae'r OED

yn diffinio system ECEC fel rhaglenni sydd, yn ogystal â darparu gofal i blant, yn cynnig cyfres strwythuredig a phwrpasol o weithgareddau dysgu naill ai mewn sefydliadau ffurfiol (cyn-cynradd) neu fel rhan o raglen datblygu plant anffurfiol.

 

Nid yw'r gwledydd sydd â'r dulliau mwyaf blaengar ac integredig o ymdrin â'r blynyddoedd cynnar yn amharu ar ansawdd y gofal ac maent yn dryloyw o ran yr egwyddorion a'r addysgeg[2] sy'n berthnasol i bob lleoliad sy'n darparu addysg gynnar a gofal plant.  Mae'r dull ECEC integredig hwn yn galluogi rhieni i ymddiried yn addysg a gofal eu plentyn ac yn rhoi'r sicrwydd sydd ei angen arnynt i ddychwelyd i'r gwaith.   

 

Mae'n allweddol bod y ddarpariaeth i blant yn cael ei chyflenwi gan ymarferwyr sy'n dilyn egwyddorion addysgegol sy'n gyson â gwybodaeth hirsefydledig am yr hyn sydd fwyaf effeithiol ar gyfer datblygiad plant.  Mae canolbwyntio ar yr addysgeg yn symud y drafodaeth yn ei blaen i ystyried yr hyn y profwyd ei fod o fudd i blant. Mae Llywodraeth Cymru yn dilyn y drafodaeth hon â diddordeb, ac yn ystyried beth y mae hyn yn ei olygu i ddyfodol gwasanaethau'r blynyddoedd cynnar ledled Cymru.

 

Datblygiadau yn Nhirwedd y Blynyddoedd Cynnar yng Nghymru

 

Bydd dull gweithredu ECEC yn adeiladu ar amrywiaeth eang o raglenni sy'n datblygu'n barhaus er mwyn cefnogi rhieni, teuluoedd a phlant yn ystod y blynyddoedd cynnar. 

 

Dechrau'n Deg

 

Yn 2012-13, cafodd rhaglen Dechrau'n Deg ei hehangu er mwyn dyblu nifer y plant dan bedair oed a oedd yn cael budd o'r rhaglen o 18,000 i 36,000. Fel rhan o'r gwaith o ehangu'r rhaglen, rhoddwyd swm bach o gyllid 'Allgymorth' i awdurdodau lleol o fewn eu grant Dechrau'n Deg er mwyn darparu elfennau o'r rhaglen i blant ledled ardal ehangach yr awdurdod lleol. Roeddent yn gallu defnyddio 2.5% o'r 'cynnydd' i ddarparu elfennau o'r gwasanaeth i blant ag angen a nodwyd a'r teuluoedd mwyaf anghenus. Gelwir hyn yn Dechrau'n Deg: Allgymorth, ac mae canllawiau ar waith i gefnogi'r dull gweithredu hwn.

 

Amcanion Dechrau'n Deg: Allgymorth yw ymestyn cyrhaeddiad Dechrau'n Deg i deuluoedd ag anghenion a nodwyd sy'n byw y tu hwnt i ardaloedd Dechrau'n Deg, yn ogystal â darparu cymorth parhaus, lle y bo'n briodol, i blant a theuluoedd sy'n symud allan o'r ardaloedd hynny.

 

Ers mis Gorffennaf 2018, mae awdurdodau lleol wedi gallu defnyddio hyd at 10% o'u cyllideb refeniw Dechrau'n Deg i ariannu Allgymorth.  Awdurdodau lleol sy'n pennu'r ffordd orau o gynnig y cymorth hwn o fewn y cyllid a ddarperir, yn ogystal â llunio meini prawf penodol ar gyfer penderfynu pa deuluoedd y dylid eu cefnogi drwy Allgymorth.  O ganlyniad, mae'r dull o ymdrin ag Allgymorth yn amrywio ledled Cymru yn ôl awdurdod lleol.

 

Yn 2017-18, darparodd awdurdodau lleol yng Nghymru wasanaethau Dechrau'n Deg i 603 o deuluoedd drwy elfen Allgymorth y rhaglen. Cynyddodd hyn i 780 o deuluoedd yn ystod 2018-19.  Fel y gofynnwyd, ceir diweddariad ar y camau sydd wedi'u cynnwys yn e-friffiad Dechrau'n Deg Llywodraeth Cymru (Gorffennaf 2018) yn Atodiad 1.

 

Cynnig Gofal Plant Cymru

 

Mae ein Cynnig Gofal Plant (y Cynnig) bellach ar gael ym mhob rhan o Gymru flwyddyn yn gynt nag a fwriadwyd yn wreiddiol, gyda mwy na 15,000 o blant yn manteisio ar ofal plant a ariennir a dros 3,000 o ddarparwyr gofal plant yn ei ddarparu.  Er bod hyn yn wych, rydym am fynd gam ymhellach a bydd ymgyrch gyfathrebu genedlaethol yn dechrau'n fuan, gan sicrhau bod pob teulu sy'n gymwys yn ymwybodol o'r hyn y mae'n gymwys i'w gael a sut i wneud cais amdano.

 

Canfu gwerthusiad o flwyddyn gyntaf y Cynnig[3] fod dros 60% o rieni wedi dweud bod y Cynnig wedi eu helpu i fod yn fwy hyblyg o ran y mathau o swyddi y maent yn eu gwneud a'r oriau y maent yn eu gweithio. Roedd llawer o rieni yn teimlo bod ganddynt fwy o gyfleoedd i hyfforddi a nododd 88 y cant fod ganddynt fwy o incwm gwario.  Mae'r rhain yn ganfyddiadau pwysig o ystyried y dystiolaeth mai gwaith sy'n talu'n dda yw'r ffordd orau allan o dlodi[4] a'r gydnabyddiaeth gynyddol o'r risgiau a'r heriau sy'n gysylltiedig â "thlodi yn y gwaith"[5]. Yn y cyd-destun hwn yr ydym yn ystyried ymestyn y Cynnig i gynnwys rhieni sy'n cael hyfforddiant neu sydd mewn addysg neu ar fin dychwelyd i'r gwaith. Disgwylir llunio adroddiad ar yr adolygiad ar ddechrau 2020.

 

Er mwyn sicrhau bod pobl yn gallu manteisio ar y Cynnig mor hawdd â phosibl, ein bwriad yw datblygu un dull cenedlaethol o weinyddu'r Cynnig, gan reoli'r ceisiadau a'r taliadau.  Bydd y Pwyllgor yn cofio ein bod wedi gweithio gyda CThEM gyda'r nod o ddefnyddio ei lwyfan cyflwyno ceisiadau a chadarnhau cymhwysedd ar gyfer rhan o'r gwasanaeth hwn.  Yn ei llythyr dyddiedig 13 Awst, cadarnhaodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ar ôl adolygu'r sefyllfa, y byddwn yn rhoi'r gorau i'r gwaith gyda CThEM am y tro.  Yn lle hynny, bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu, yn cynnal ac yn cefnogi'r llwyfan digidol i ategu'r Cynnig. O dan y model hwn, bydd gwasanaethau rheng flaen yn parhau i gael eu darparu gan yr awdurdodau lleol, sy'n cefnogi'r dull gweithredu hwn.

 

Mae gan y penderfyniad hwn, a'r adolygiad mewn perthynas â rhieni mewn addysg a hyfforddiant, oblygiadau o ran y ddeddfwriaeth y craffwyd arni gan y Pwyllgor yn 2018, ac a ddeddfwyd o dan Ddeddf Ariannu Gofal Plant (Cymru) 2019.  Ein bwriad oedd cyflwyno rheoliadau a chynllun gweinyddol yr hydref hwn.  Yn hytrach na deddfu nawr, gan wybod efallai y bydd angen i ni wneud newidiadau yn fuan ar ôl hynny, byddwn yn aros am ganfyddiadau'r adolygiad cyn mynd ar drywydd gwaith hwn.

 

Ochr yn ochr â'r gwaith hwn, mae gwerthusiad o ail flwyddyn y Cynnig yn dirwyn i ben.  Byddwn yn cyhoeddi adroddiad ar y canfyddiadau ym mis Rhagfyr 2019, a fydd yn rhoi dealltwriaeth o rai o'r heriau y mae rhieni a darparwyr yn eu hwynebu wrth iddynt geisio trefnu gofal cofleidiol a'r ffordd y mae'r Grant Cyfalaf yn ategu'r gwaith o gysoni elfennau addysg gynnar a gofal plant y Cynnig.

 

Cefnogi'r Sector Gofal Plant

 

Mae gwaith i atgyfnerthu a chefnogi'r sector a'r gweithlu ECEC eisoes yn mynd rhagddo fel yr amlinellir yn y Cynllun 10 mlynedd ar gyfer y gweithlu Gofal Plant, Chwarae a Blynyddoedd Cynnar[6].  Nod y Cynllun yw proffesiynoli'r gweithlu i ddod yn un a gydnabyddir am ei rôl werthfawr fel sector sy'n galluogi'r economi, gan gefnogi rhieni a gofalwyr i gael swyddi ac aros ynddynt.

 

Bwriad yr agenda proffesiynoli yw annog cyflogwyr ac ymarferwyr i wella eu sgiliau i lefel 3 a thu hwnt.  Mae cymwysterau newydd yn cael eu datblygu er mwyn helpu ymarferwyr i ddatblygu eu gyrfa, camu ymlaen yn eu gyrfa a nodi llwybrau ar draws rhannau eraill o'r sector.  Cyflwynwyd lefelau 2 a 3 ym mis Medi a disgwylir i lefelau 4 a 5 gael eu cyflwyno ym mis Medi 2020.  Bydd y rhaglen prentisiaeth yn parhau i gefnogi cyflogwyr ac ymarferwyr i gael gafael ar hyfforddiant ar lefelau uwch.  Yn gynharach y mis hwn, gwnaethom gyhoeddi rhaglen Cynnydd ar gyfer Llwyddiant estynedig Cronfa Gymdeithasol Ewrop, sy'n helpu ymarferwyr sy'n gweithio llai na 16 awr yr wythnos i gael gafael ar hyfforddiant prentisiaeth ar gyfer y cymwysterau newydd, gan sicrhau dull gweithredu sector cyfan.

 

Rydym yn ymwybodol o'r angen i gefnogi cynaliadwyedd darparwyr gofal plant a gwnaethom roi rhyddhad ardrethi busnes gwerth 100% i'r sector am gyfnod o dair blynedd. Rydym hefyd yn gweithio gyda Busnes Cymru a CWLWM[7] i wella'r cymorth a'r cyngor sydd ar gael i fusnesau newydd a'r rhai sy'n ystyried ehangu eu gwasanaethau.  Mae Gofal Cymdeithasol Cymru (GCC) wedi lansio ymgyrch recriwtio a chadw dair blynedd sydd â'r nod o godi proffil gyrfa ym maes gofal plant a phwysigrwydd sicrhau ein bod yn gallu recriwtio'r unigolion cywir sy'n meddu ar y rhinweddau personol cywir i'r sector. Cynhelir yr ymgyrch ochr yn ochr â'r gwaith o gyflwyno cymwysterau newydd.

 

Darpariaeth Meithrin y Cyfnod Sylfaen

 

Mae'r Cyfnod Sylfaen, a gyflwynwyd yn 2010, yn annog plant i fod yn greadigol ac yn ddychmygus, gan wneud dysgu yn fwy hwyliog ac effeithiol wrth fynd i'r afael ag anghenion datblygu.  Wrth ystyried tystiolaeth o'r rhaglenni blynyddoedd cynnar yn Llychlyn yn benodol, gwelwyd bod dulliau arbrofol sy'n seiliedig ar chwarae yn arwain at safonau cyrhaeddiad uwch o gymharu â mabwysiadu cwricwlwm rhy ffurfiol.  Mae Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl yn ymrwymedig i ddatblygu egwyddorion ac ethos y Cyfnod Sylfaen yn barhaus, gan ddarparu addysg sy'n briodol i ddatblygiad i blant rhwng 3 a 7 oed.

 

Roedd canlyniadau gwerthusiad tair blynedd o'r Cyfnod Sylfaen a gyhoeddwyd yn 2015 yn gadarnhaol iawn, gan ddangos bod y Cyfnod Sylfaen, lle roedd yn cael ei roi ar waith yn dda, yn gwella cyrhaeddiad pob plentyn, yn ogystal â sicrhau gwelliannau o ran presenoldeb cyffredinol yn yr ysgol, llythrennedd, rhifedd a llesiant dysgwyr.

 

Mae'r nifer sy'n manteisio ar addysg gynnar gyffredinol yn uchel, gyda thros 80% o blant yn mynychu'r ysgol y tymor ar ôl eu pen-blwydd yn bedair oed, a'r mwyafrif o'r plant sy'n weddill yn mynychu lleoliadau gofal plant sy'n darparu'r Cyfnod Sylfaen. Nododd adroddiad blynyddol Estyn ar gyfer 2017-18 fod bron pob awdurdod lleol yn ariannu addysg rhan amser ar gyfer plant tair oed ac, o bryd i'w gilydd, ar gyfer plant pedair oed, mewn lleoliadau nas cynhelir yn ogystal ag mewn ysgolion. Mae tua 600 o leoliadau yn cynnig addysg rhan amser. Nododd Estyn fod y safonau yn dda neu'n well mewn naw lleoliad allan o ddeg.

 

Cwricwlwm i Gymru 2022

 

Mae'n bwysig nad ydym yn ystyried y Cyfnod Sylfaen ar wahân i'r gwaith ehangach o ddiwygio'r cwricwlwm a'r trefniadau asesu.  Pwysleisiodd yr Athro Graham Donaldson ei gefnogaeth ar gyfer y Cyfnod Sylfaen yn ei adolygiad o'r cwricwlwm a'r trefniadau asesu, lle nododd ei fod yn gryfder allweddol ym maes addysg. Er y bydd y cwricwlwm newydd yn dileu cyfnodau a chamau, gan olygu na fydd y Cyfnod Sylfaen yn rhan o'r cwricwlwm newydd mwyach, mae'r dull hwn yn aros yn gwbl ganolog.

 

Daeth y cyfnod i roi adborth ar Cwricwlwm 2022 i ben ym mis Gorffennaf 2019, ac mae wedi tynnu sylw at broblemau penodol o ran y gwaith o gyflwyno'r cwricwlwm newydd mewn lleoliadau nas cynhelir sy'n darparu'r Cyfnod Sylfaen.  Mae'r gwaith datblygu ar y cyd yn mynd rhagddo a bydd canllawiau diwygiedig ar y cwricwlwm ar gael ym mis Ionawr 2020 yn barod i'w cyflwyno ym mis Medi 2022. Byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid nas cynhelir er mwyn sicrhau y caiff anghenion y sector eu hystyried wrth ddatblygu cwricwlwm sy'n diwallu anghenion pob dysgwr.

 

Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth (PaCE)

 

Rhaglen gwerth £21.5m yw PaCE, a ariennir ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop, sydd wedi'i hanelu at rieni dros 25 oed sy'n economaidd anweithgar a rhieni rhwng 16 a 24 Nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant (NEET). Gofal plant fydd y prif ffactor sy'n atal rhieni sy'n cofrestru ar gyfer PaCE rhag manteisio ar gyfleoedd cyflogaeth neu hyfforddiant.   Mae cyllid ar gyfer gofal plant ar gael er mwyn i rieni allu ymgymryd â gwaith gwirfoddol/profiad gwaith neu fynychu cyrsiau hyfforddi. Mae hefyd yn galluogi rhieni i gael cymorth ariannol i'w helpu gyda'r broses o bontio i fyd gwaith ar ôl bod yn economaidd anweithgar/NEET.

 

Erbyn diwedd mis Awst, mae PaCE wedi cofrestru dros 4,400 o rieni ar gyfer y prosiect ac mae dros 1,600 o rieni wedi cael cymorth i gael gwaith.   Mae mwy nag un o bob tri rhiant sy'n ymuno â PaCE yn cael swydd drwy'r cymorth pwrpasol a gynigir i rieni o dan y rhaglen.

 

Rhaglen Drawsnewid Integreiddio'r Blynyddoedd Cynnar

 

Mae rhaglen Drawsnewid Integreiddio'r Blynyddoedd Cynnar yn adeiladu ar y weledigaeth a nodir yn Ffyniant i Bawb. Mae'r rhaglen yn ystyried yr hyn sydd ei angen i greu system sy'n wirioneddol gydgysylltiedig ac ymatebol sy'n canolbwyntio ar anghenion unigryw pob plentyn. 

 

Er mwy rhoi'r plentyn wrth wraidd y system, mae angen gwneud gwaith amlasiantaethol er mwyn sicrhau bod teuluoedd yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt, pan fydd ei angen arnynt; a bod y gwasanaethau hynny sy'n cael eu darparu i blant ifanc a'u teuluoedd yn cael eu rheoli mewn system gydlynol a di-dor. Bydd hyn yn golygu atgyfnerthu systemau cydgysylltu ac atgyfeirio lleol ac integreiddio gwasanaethau iechyd a gwasanaethau'r awdurdod lleol.

 

Ers mis Rhagfyr 2017, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf ar brosiect datblygu ar y cyd dwys sy'n canolbwyntio ar ymchwilio i'r ffordd y gellir ad-drefnu gwasanaethau'r Blynyddoedd Cynnar yn lleol er mwyn sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu mewn modd mwy cydlynol a chydgysylltiedig. Gan adeiladu ar y dull gweithredu a ddefnyddiwyd yng Nghwm Taf, mae wyth Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ychwanegol wedi cofrestru'n ffurfiol ar gyfer y rhaglen fel arloeswyr. Dyfarnwyd cyllid i'r Arloeswyr er mwyn eu galluogi i ganolbwyntio ar gydgysylltu gwasanaethau yn lleol, y gwaith o'u cynllunio a'u comisiynu, a'r ffordd orau o nodi a diwallu anghenion.

 

Cymraeg 2050

Gweledigaeth Llywodraeth Cymru yw gweld y Gymraeg yn ffynnu, a chynnydd yn nifer y bobl sy'n siarad ac yn defnyddio'r iaith bob dydd.  Mae gan y sector gofal plant ac addysg gynnar rôl bwysig i'w chwarae yn y cyd-destun hwn, ac mae Cymraeg 2050 yn nodi:

“Y nod hirdymor ar gyfer ein darpariaeth yn y blynyddoedd cynnar yw cyrraedd sefyllfa lle mae plant dan bump oed wedi cael digon o gyswllt â’r Gymraeg i allu dechrau ar eu taith i fod yn siaradwyr Cymraeg rhugl.”

Mae hon yn egwyddor ganolog ym maes Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar, sy'n gwbl gydnaws â Cymraeg 2050. Rydym yn buddsoddi £34 miliwn mewn cyllid cyfalaf i gefnogi lleoliadau gofal plant cyfrwng Cymraeg ledled Cymru. A 28% o'r plant sy'n manteisio ar ein Cynnig Gofal Plant yn defnyddio lleoliadau cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog, mae'r buddsoddiad hwn yn allweddol i gefnogi ac ehangu'r sector. Ynghyd â hyn ac fel rhan o'n hymrwymiad yn Cymraeg 2050, rydym am ehangu darpariaeth y blynyddoedd cynnar yn y Gymraeg, gan agor 150 yn fwy o grwpiau meithrin dros y degawd nesaf er mwyn hwyluso pontio didrafferth i addysg cyfrwng Cymraeg.  Mae'r 12 cyntaf wedi'u sefydlu bellach, ac rydym yn bwrw ymlaen â'n cynlluniau i barhau â'r rhaglen ehangu hon.

Ochr yn ochr â hyn, mae gwaith ar y gweill i gefnogi'r ymrwymiadau a wnaed yn ein cynllun 10 mlynedd ar gyfer y gweithlu. Mae hyn yn cynnwys cefnogi'r rheini sy'n gweithio mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg, yn ogystal â datblygu sgiliau Cymraeg ar draws y sector gofal plant a chwarae.

 

 

 

Hydref 2019

 


 

Atodiad 1

 

Diweddariad ar y camau sydd wedi'u cynnwys yn e-friffiad Dechrau'n Deg Llywodraeth Cymru ar gyfer mis Gorffennaf 2018

 

 

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru e-friffiad Dechrau'n Deg ym mis Gorffennaf 2018, a roddodd ddiweddariad ar Ail Gam yr Adolygiad o raglen Dechrau’n Deg. Roedd yr e-friffiad hwn yn cynnwys nifer o gamau yn ymwneud â thargedu daearyddol, allgymorth a gofal plant.

 

Rhoddir diweddariad ar y camau sydd wedi'u cynnwys yn yr e-friffiad isod:

 

1.    Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu'r rhestrau Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (LSOA) diweddaraf i Awdurdodau Lleol pan fyddant ar gael er mwyn eu galluogi i ystyried priodoldeb ardaloedd Dechrau'n Deg cyfredol. Byddai angen trafod unrhyw newidiadau sylweddol posibl i ardaloedd Dechrau'n Deg ac unrhyw oblygiadau posibl yn fanwl â'r Uwch-reolwr Cyfrif perthnasol yn Llywodraeth Cymru.

2.    Bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu, yn diwygio ac yn ailgyhoeddi canllawiau ar yr hyblygrwydd i ddefnyddio gwybodaeth leol i Awdurdodau Lleol, gan ystyried arfer da presennol, erbyn mis Rhagfyr 2018.

 

Ym mis Rhagfyr 2018, darparodd Llywodraeth Cymru y rhestrau LSOA diwygiedig i Awdurdodau Lleol, ynghyd â chais i bob un ohonynt adolygu'r data. Mae rheolwyr cyfrif wedi trafod goblygiadau'r rhestr newydd mewn cyfarfodydd cyfrifo yn ogystal â chyfarfodydd y grŵp rhwydwaith cenedlaethol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael yr adborth perthnasol, ac wedi’i ddadansoddi. Mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio ag Awdurdodau Lleol a rhwydwaith Dechrau'n Deg yn benodol ar hyn o bryd er mwyn pennu'r camau nesaf yn dilyn yr ymarfer hwn. Ni chaiff y canllawiau eu cyhoeddi hyd nes y bydd y gwaith hwn wedi'i gwblhau.

 

3.    Bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu, yn diwygio ac yn ailgyhoeddi canllawiau ar hyblygrwydd allgymorth i Awdurdodau Lleol erbyn mis Rhagfyr 2018.

4.    Bydd Llywodraeth Cymru yn caniatáu hyblygrwydd o hyd at 10% ar ddarpariaeth allgymorth yn unol â'r hyblygrwydd presennol o ran CAP.

5.    Bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y wybodaeth am yr hyblygrwydd cynyddol hwn yn gadarn er mwyn egluro ei gyfyngiadau, h.y. mewn rhai achosion gallai hyn olygu na ellir sicrhau cynnydd ychwanegol neu na ellir ond cyrraedd nifer bach o blant ychwanegol.

 

Ers mis Gorffennaf 2018, mae Awdurdodau Lleol wedi gallu defnyddio hyd at 10% o'u cyllideb refeniw i ariannu Allgymorth. Mae'r cyfyngiadau o ran defnyddio allgymorth wedi'u hegluro i Awdurdodau Lleol a chafwyd trafodaethau â rheolwyr cyfrif.

Darparodd swyddogion Llywodraeth Cymru hefyd lythyr i ACau ac ASau yn nodi'r hyn y bwriedir i'r allgymorth ei ddarparu, yn ogystal â'i gyfyngiadau. 

Mae swyddogion yn cydweithio â rhwydwaith Dechrau'n Deg ar hyn o bryd er mwyn meithrin dealltwriaeth well o'r cyfleoedd a'r heriau y mae'r defnydd o allgymorth yn eu cyflwyno, yn enwedig yng nghyd-destun y Grant Cymunedau a Phlant newydd.

 

6.    Awdurdodau Lleol i ddarparu data ar nifer y plant sy'n cael eu cefnogi drwy allgymorth (fel sy'n ofynnol o 2018-19). Bydd Llywodraeth Cymru yn monitro hyn yn ofalus er mwyn deall effaith yr hyblygrwydd hwn.

 

Yn 2017-18, darparodd Awdurdodau Lleol wasanaethau Dechrau'n Deg i 603 o deuluoedd ledled Cymru drwy elfen allgymorth y rhaglen. Cynyddodd hyn i 780 o deuluoedd yng Nghymru yn ystod 2018-19. Mae swyddogion bellach yn casglu'r data hyn o ffurflenni chwarterol Awdurdodau Lleol.

 

7.    Llywodraeth Cymru a phartneriaid i ystyried sut y gellir cyfuno rhaglen Dechrau'n Deg a gwasanaethau eraill yn well fel rhan o raglen integreiddio'r Blynyddoedd Cynnar ac ystyried yr hyn a ddysgwyd o'r prosiect datblygu ar y cyd yng Nghwm Taf yn benodol.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mewn amrywiaeth eang o raglenni ar gyfer y blynyddoedd cynnar. Fodd bynnag, mae angen i ni sicrhau y gellir cyfuno'r holl raglenni a gwasanaethau ar gyfer y blynyddoedd cynnar mewn modd di-dor er mwyn sicrhau'r gwerth gorau i rieni a phlant, gan ddefnyddio'r adnoddau cyfyngedig sydd ar gael. Mae swyddogion ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru yn datblygu rhaglen drawsnewid i wireddu'r uchelgais o greu system Blynyddoedd Cynnar gydgysylltiedig. Rydym yn ystyried yr hyn y byddai angen ei wneud i greu system Blynyddoedd Cynnar, yn lleol ac yn genedlaethol.

 

Mae rhaglen datblygu ar y cyd â Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf yn rhan allweddol o'r gwaith hwn, ac wedi bod yn ystyried ffyrdd o ad-drefnu gwasanaethau blynyddoedd cynnar yn lleol ers mis Rhagfyr 2017. Gan adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd hyd yma, mae swyddogion bellach yn treialu'r dull hwn yn ehangach, gan weithio mewn partneriaeth ag wyth Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus braenaru. Rydym yn cydweithio i fapio a deall gwasanaethau presennol ac i ddylunio a chynnal system blynyddoedd cynnar ddidrafferth er mwyn "i blant o bob cefndir gael y dechrau gorau mewn bywyd."  

 

Ar ôl cwblhau'r gwaith gweinyddol hwn, rydym yn bwriadu defnyddio'r dull partneriaeth hwn ym mhob un o’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus er mwyn eu galluogi i ddatblygu eu hatebion eu hunain ac, yn hollbwysig, i feithrin cydberthnasau ag asiantaethau allweddol, gan gynnwys rhwng awdurdodau lleol a byrddau iechyd.

 

 

 

8.    Bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu, yn diwygio ac yn ailgyhoeddi canllawiau ar ofal plant i Awdurdodau Lleol erbyn gwanwyn 2019. Cyn hynny, bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi e-friffiadau i Awdurdodau Lleol ar feysydd allweddol ac arfer da yn seiliedig ar elfen gofal plant y rhaglen, gan gynnwys polisïau presenoldeb a rheoli.

 

Cyhoeddwyd canllawiau gofal plant ar gyfer ymgynghoriad ym mis Mai 2019. Cafodd y canllawiau drafft hyn eu llunio ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a'r Gweithgor Gofal Plant, sy'n cynnwys rhanddeiliaid allanol. Roedd y ddogfen yn cynnwys pennod ar Reoli Presenoldeb a'r gofynion sylfaenol. Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad wedi cael eu dadansoddi ac mae fersiwn derfynol o'r ddogfen yn cael ei pharatoi i'w chyhoeddi.

 

9.    Bydd Awdurdodau Lleol yn ceisio cyflawni'r targedau presenoldeb y cytunwyd arnynt erbyn mis Mawrth 2019, yn dibynnu ar eu lefelau presenoldeb presennol. Bydd yr Uwch-reolwr Cyfrif perthnasol yn cytuno ar y targedau ac yn eu monitro.

 

Gosodwyd targedau fel y nodir yn e-friffiad Llywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2018 i wella presenoldeb mewn lleoliadau Gofal Plant Dechrau'n Deg. Gan ddefnyddio'r cyfartaledd cenedlaethol o 78% fel canllaw, cytunwyd â chydgysylltwyr Dechrau'n Deg y dylid gosod y targedau presenoldeb cenedlaethol canlynol:

·         targed gofynnol o 75%

·         cyfartaledd targed o 80%

·         uchafswm targed o 85%

 

Ers mis Gorffennaf 2018, mae nifer yr absenoldebau heb eu hawdurdodi mewn lleoliadau Gofal Plant Dechrau'n Deg wedi gostwng 1%. Mae swyddogion yn parhau i gydweithio'n agos ag Awdurdodau Lleol i fonitro'r targedau hyn ac i gefnogi Awdurdodau Lleol drwy eu hannog i rannu arfer gorau. Er enghraifft, rydym yn gwybod bod nifer o Awdurdodau Lleol wedi cyflwyno ffyrdd arloesol o gynnig cymhellion ar gyfer presenoldeb.

 

Bydd y canllawiau Gofal Plant newydd a gaiff eu cyhoeddi yn yr hydref yn ffurfioli ac yn cryfhau'r dull gweithredu hwn.

 

 

 

 

 

 



[1] https://gov.wales/sites/default/files/statistics-and-research/2019-07/180110-review-childcare-sector-cy.pdf

[2] Mae addysgeg yn ymwneud â'r broses addysgu. Mae'n cydnabod nad yw'r ffordd y mae plant yn dysgu ac yn datblygu ar y cam hwn ond yn amodol ar yr hyn y bwriedir ei addysgu, a bod y ffordd y caiff ei hwyluso yn arbennig o bwysig hefyfd.  

[3] https://llyw.cymru/gwerthusor-cynnig-gofal-plant-i-gymru

[4] Sefydliad Joseph Rowntree (2016) UK Poverty: Causes, costs and solutions. Adroddiad llawn ar gael yn: https://www.jrf.org.uk/report/uk-poverty-causes-costs-and-solutions

[5] MacInnes T, Aldridge H, Bushe S, Kenway P a Tinson A (2013) Monitoring Poverty and Social Exclusion, Sefydliad Joseph Rowntree

[6]https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2019-07/cynllun-gweithlu-r-blynyddoedd-cynnar.pdf

[7] Mae 'Cwlwm yn cynnwys pum sefydliad gofal plant: Blynyddoedd Cynnar Cymru, Clybiau Plant Cymru, Mudiad Meithrin, Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd (NDNA Cymru) a PACEY Cymru.